Bwriad y Clwb yw hybu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn yr ardal; darparu adloniant o bob math ac ar bob agwedd o'r diwylliant Cymraeg; dosbarthiadau Cymraeg ar bum lefel, dosbarth cefndir Cymraeg a dosbarth llenyddol.
Gellir llogi ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd. Stafell adloniant ar gael ar gyfer partion preifat gan unigolion a chymdeithasau.
Mae gwelliannau mawr wedi digwydd i adeilad y clwb. Gwariwyd dros £40,000 yn adnewyddu y to, gosod ffenestri a drysau newydd a glanhau'r gwaith cerrig.
Mae cyfres o weithgareddau yn cael eu trefnu er mwyn cefnogi parhad y gwersi Cymraeg yn y clwb.
Rhagor o wybodaeth ar www.clwbybont.com